Clecian -Llên Meicro – cwrs Tŷ Newydd

Damia trên yr arfordir!

Damia’r hen drên na a’i gerydd.  “Paid ti a meiddio, paid ti a meiddio, paid ti a meiddio.” drosodd a throsodd a throsodd yn clecian a rhwygo’r awyr yn ddigywilydd.  Yn baeddu’r gwanwyn.  Yn fy ngwneud i’n butain.

Mae cusanu mor hardd yng nghysgod alaw’r deryn du, a’n cofleidiad nwydys rhwng llwyni lafant fel petai bendith Duw arni.

Roedd popeth yn iawn nes daeth y trên.

O’n i ar goll, yn ddeilen heb gangen ar wynt hydrefol.  Fy mhen yn chwyrlio a fy nghalon yn gerddorfa o gyrc siampên gorfoleddus, yn dathlu’n cariad.

Ond yna daeth y trên.

Roedd ei anadl e’n fy nghlust, yn atsain mwmian y gwenyn.  Drosodd a throsodd yn prysuro  a dwysáu.  Y ddau yn mofyn neithdar melys yng ngwyllt tlws yr ardd.

Ac yna glywais y trên.

Troellais a throellais yn rhydd yn y caru, pob cyffyrddiad yn fy arwain yn nyfnach i’r gwyllt.  Ar goll yn swyngyfaredd yr ardd.  Ar goll yn swyngyfaredd y dyn.

Rhag eich cywilydd, dwrdiodd y trên.

Gwasgodd esmwythdra’i law oer yn ddwfn i fy nghnawd, a suddais innau fy modiau yn ddyfnach i’r lawnt.  Roedd hwn yn gariad gyda gwreiddiau.

Ond yn gariad oedd yn torri’r rheolau, meddai clecian budr y trên.

Cipiodd yr awel fy ngwallt a’i lapio o’n cwmpas.  Dyma fy mendith ar eich uniad, meddai’r chwa, cyn dianc fry i chwarae yn y coed.  Gwasgodd ef ei gusan i galon fy ngheg a theimlais fy hun yn blodeuo.

Yna cefais i fy neffro o’r gofleidiad boeth gan sŵn y trên, yn hyll, yn sydyn, yn ddigywilydd, ar ddiwrnod o haul a’r gwanwyn mor hardd.

Roedd popeth yn iawn nes basiodd y trên.

Cefais fy atgoffa mod i’n chwarae a thân mysg y rhosod pigog.  Ella dyliwn ddiolch i’r trên a’i glecian swnllyd –  “Paid ti a meiddio, paid ti a meiddio, paid ti a meiddio.” drosodd a throsodd a throsodd…

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

Chdi, fi, Dad a’r Iesu – stori fer

Daeth sŵn hegar o gyfeiriad y drws ffrynt.  Sŵn cyffyrddiad dwrn powld – unwaith, ddwywaith, deirgwaith ag yna curiad dwbl sionc i orffen.  

Bu saib am foment cyn i’r gofod tywyll oddi tan y Parker Knoll, ger y palis, ddechrau udo yn aflafar.  Hen udo marwnadol ag ambell gyfarthiad bygythiol yma ag acw yn amrywio ar y stŵr.

Prysurodd anadl Meira ac agorodd ei llygaid ar wên addfwyn yr Iesu, ei wyneb disglair yn pefrio lawr arni o ucheldir y silff ben tân, drws nesaf i gasgen lwch Dic annwyl.

Anrheg o Corfu yn 1972, gan Beti ei chwaer yng nghyfraith, oedd yr Iesu – ag ar wahân i un noson Pasg dwetha, ar ben arch Dic ei gŵr, doedd yr Iesu ddim wedi symud o’i eisteddle uwch y tân ers iddo gyrraedd Llain Wen mewn bag plastig o Fôr y Canoldir ddeng mlynedd yn ôl.

Daeth tri churiad digywilydd arall ar y drws.

“Wel ar fy enaid i!”

Roedd Meira wedi bod yn pwffian cysgu’n llafurus ers “Amen” olaf ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’.  Gwasgodd ei hun o’i heistedd a’i chychwyn hi fesul llithriad sliper o’r parlwr ag am y cyntedd.

Parhaodd yr udo.

“Taw, Twts!  Taw!” cyfarthodd Meira mewn ymateb, ond ni thawodd y sŵn.  Roedd Twts eisoes wedi colli ar ei hun yn llwyr.

Ailddechreuodd y curo.  Unwaith, ddwywaith, curiad dwbl sionc, yna un bach arall, ag un arall eto i orffen.  Roedd y rhythm yn fwy cyfeillgar y tro yma.

“Rhoswch yn enw’r Tad!” Dechreuodd Meira golli amynedd wrth lusgo ei hun yn llafurus ar hyd yr ‘handrêl’ a thua’r drws.

“Be haru chi?”  Parhaodd i ddwrdio.  “Wyddoch chi ddim ‘mod i’n jeri… jeri… jeriatric?!”

Teneuodd anadl Meira ag arhosodd am ychydig eiliadau i chwythu.  Gwasgodd ei dwrn yn dyn am y pren a gyrru diolch telepathig i Harri saer, Tan-y-Foel, am roi’r ‘handrêl’ yn sownd ar wal y cyntedd cyn y Sulgwyn, bendith arno.

Wrth iddi ollwng y gadwyn ar y drws ag agor y cliciad, aeth Twts a’r udo i’r lefel nesaf.  Ymddangosodd y blaidd ynddi, ag er gwaethaf erfyn blinedig Meira, doedd dim cysuro ar yr anifail bellach.  Yn ddirgel yn nhywyllwch ei gwâl tan y gadair Parker Knoll yr arhosodd Twts, er gwaethaf ei bygythiadau milain tuag at y gelyn.

Agorodd Meira y drws a thynnu lleithder y nos ar ei phen.  Daeth cryndod brwnt drosti wrth i’r oerfel dreiddio drwy wead main, neilon ei oferôl.  Collodd ei chydbwysedd am ennyd, ag estyn unwaith eto am gadernid yr handrêl.

Wrth iddi sythu o’i chwman, ddyrchafodd Meira ei phen a chael llawn ddarlun o’r ffigwr yn y fynedfa.  Llamodd ei chalon i’w gwddf a gwelwodd ei gruddiau.

“Tybed?”  Ochneidiodd, dan ei gwynt, a threiddiodd ail gryndod drwyddi, ond yn bigau main fwy annifyr y tro hwn.

Ni ddaeth yr un smic o gyfeiriad y dieithryn.

Roedd ei daldra du bitsh yn ddychrynllyd, er gwaethaf eurgylch hudolus y golau stryd a ddisgleiriai yn Feiblaidd o’i gwmpas.  Gwasgodd ei ddwrn dde yn dyn o amgylch ffon hir, fain nes bo ei figyrnau heb ddiferyn o gochni gwaed.  Safai cwfl ei glogyn pygddu yn big cadarn ar ei ben, yr ymyl yn disgyn yn drwm dros ei lygaid.  Disgleiriodd ei ffurf yn ei gyfanrwydd â sêr o wlith y niwl, a berwai cwmwl o anadl poeth rhyngddo fo a’r hen ddynes.

Sadiodd Meira ei hun yn ei slipers a chododd y Bwci-bo ei ben.

“Mrs Pritchard?”  meddai’r ffigwr, gan lusgo’i lais dwfn drwy’r graean.

Aeth llygaid Meira fel platiau cacen.

“Nefoedd yr adar!  Tecwyn, Elsi Ann?!”  Ochneidiodd Meira mewn rhyddhad; doedd ei dyddiau ddim ar ben wedi’r cyfan.

“Do’n i’m yn dy nabod di heb dy drowsus bach.  A be di’r busnas ‘Mrs Pritchard’ ‘ma?  Anti Meira fues i, i ti erioed!”

Sythodd yr ymwelwr.

“Sarjant Huws, os gwelwch yn dda, Anti… y… Mrs Pritchard,” meddai Tecwyn, yn trio’n galed i ddal ei afael yn ei statws.

Cafodd Meira oleuedigaeth.  “Felly chdi di plismon newydd y lle ‘ma?  O’n i di clywed ryw si. Wel tyd i mewn o’r nos i ti gael cnesu, mae’r tân yn clecian yn parlwr ‘cw!”

“Dw i yma ar fater swyddogol!” cyfarthodd yr heddwas mewn ymateb, a heb symud modfedd o’i le.

Plethodd Meira ei breichiau ag edrych fyny ar Tecwyn drwy ei heiliau afreolus, fel petai o dal yn hogyn direidus mewn trowsus bach.  Cyflymodd ei chalon a theimlodd ddarlith mamol yn cronni yn ei bol.

“Wel be haru ti?  Sa Elsi dlawd yn gwaredu dy glywed ti!” Daeth tro Meira i gyfarth unwaith eto.  “A minnau di dy fagu di pob dydd am flynyddoedd tra roedd hi’n llafurio’n y becws na, i roi trowsus am dy goesau a marblis yn dy bocedi… bendith i’w llwch, machi.”

Oedodd am ennyd a thawelodd mymryn ar ei llais.  Peth cas ydy cael eich hatgoffa yn annisgwyl o’r holl bobl sydd wedi eich gadael, meddyliodd.

“Nefoedd, Tecwyn bach, roeddet ti fel mab i mi.  Nes i dy fwydo di fy hun, er bo Gwenda Meira gen i mond yn fabi mewn breichiau.  Wir, dw i di sychu dy dî…”

Roedd Tecwyn wedi clywed digon.

Camodd i oleuni’r cyntedd ag ymddangosodd ei law chwith o gysgodion dwfn ei glogyn â bag mawr o gachu ci yn crogi o’i fys pigo trwyn.  “Mae hyn…”  meddai’n gadarn, “wedi mynd yn broblem fawr yn y dre ‘ma!”

Dwedodd Meira yr un gair, ond syllu’n gegrwth ar Tecwyn a’i fag, yn diferu glaw man ar hyd ei Axminster.

Parhaodd y Sarjant. “Mi wn, Mrs Pritchard, bo gennych chi gi.  Mi wn hefyd, na fedrwch grwydro ymhell y dyddiau hyn.”

“Ewadd!” ebychodd Meira yn goeglyd, gan chwyddo ei bronnau.  “Wyt ti’n siŵr nad ditectif wyt ti, ‘Sarjant Huws’?”

“Ac mi ffeindiais i gynnwys y bag ‘ma…” parhaodd y Sarjant yn yr un tôn, “y tu allan i’ch drws ffrynt chi!” Cododd ei fraich yn uwch i sicrhau bo’r dystiolaeth yn llawn golwg y cyhuddedig.

Ochneidiodd Meira yn uchel, fel petai hi newydd dderbyn newyddion difrifol.  “Wannwl, be na i?” meddai, â chrynu gwneud yn ei llais.

Anesmwythodd Sarjent Huws a gostwng y bag.  “Be da chi’n feddwl ‘be na’i?” gofynnodd yn bryderus.

“Bydd raid i mi ffonio’r milfeddyg ar frys!” atebodd Meira, ei hystumiau yn dwysau.

Dyrchafodd yr heddwas ei lais. “Wel pam?  Be sy’n bod?!”

Trodd Meira ei phen tua’r parlwr a dechreuodd ganu. “Tw-wwwwwts!  Tyd yma Twts bach!  Tyd at Mam!  Tw-wwwwwts!”

Daeth sŵn gwichian bach, cyffrous o’r parlwr, ag yn sydyn ymddangosodd llygoden fawr o gi yn y cyntedd.  Pwysodd Meira ymlaen yn ofalus gan ddefnyddio’r handrêl i’w sadio, a dyrchafodd ei babi i’w breichiau.

“Twts, dyma Sarjant Huws,” meddai, gan gyflwyno’r Miniature Yorkshire Terrier yn llawn balchder i’r heddwas.

Safodd y ddau am ennyd fach, yn syllu ar ei gilydd yn ddistaw.  Y Sarjent gyda’i honglad o fag cachu ar ei fys, a Meira gyda Twts fach dan ei braich.

“Ag os wyt ti’n meddwl,”  parhaodd Meira, yr ystumiau chwareus wedi llwyr ddiflannu, “bo fy Twts fach i gyda’r gallu i gachu gymaint â hynny, yna mae’n amlwg bo ganddi uffern o broblem a bo rhaid iddi weld milfeddyg ar frys, yn does?!”

Cymerodd Sarjant Huws gam yn ôl dan beswch nerfus i leithder y niwl, a chuddiodd cwdyn cachu yn ôl dan ei glogyn.

“Rŵan!” gorchymynnodd Meira.  “Taswn i’n chdi, mi fyswn i’n mynd a dy fag enfawr o gachu a chnocio ar ddrws Trefor nymbyr ten, i chdi gael cyfarfod Gelert, ei Alsatian!”

Llyfodd Twts foch Meira mewn cariad, a chaeodd hithau’r drws yn glep ar wep Sarjant Huws, ei bwysigrwydd, ei gachu rwtsh a niwl oer y nos.  Cododd y gadwyn yn ôl i’w le a throdd ei slipers yn ôl am y parlwr.

“Lawr rŵan, ‘nghariad i,” sibrydodd yn addfwyn wrth y ci, gan blygu mlaen yn bwyllog, y rêl yn cymryd ei phwysau.  Neidiodd Twts o’i breichiau i ganol lwyni blodeuog y carped, cyn prancio yn ôl i ben pella’r cyntedd ag i’r parlwr.

“Na ti, ffwrdd a ti i gysgu o dan gadair Dad, machi, gawn ni lonydd rŵan sti.  Chdi, fi, Dad a’r Iesu.”

Llusgodd Meira ei hun yn llafurus ar hyd yr ‘handrêl’ ag yn ôl tua’r parlwr, un llithriad sliper am bob tic-toc ar y cloc mawr.

Arhosodd am ychydig eiliadau i chwythu’n drwm, ei llygaid yn troi yn ei phen.

Yna, unwaith eto gyrrodd ddiolch telepathig i Harri saer, am roi’r ‘handrêl’ yn sownd, bendith arno.

Suddodd yn ddiymadferth i’r ‘recliner’ ger y tân ag ymestynnodd at y bwrdd bach wrth ei hochr, ag i gyfeiriad y weirles. Trodd yr olwyn fach blastig nes teimlo’r clic, ac mewn eiliad llanwyd ei phen a’i chalon â chysur emynau’r nos.   Tarodd olwg hiraethus ar Dic a’r Iesu, caeodd ei llygaid a llithrodd i drwm gwsg.

 

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

Faciwî

‘Ma nhw di deud na chaf fynd gam ymhellach na hyn,’ ochneidiodd wrth ei hun, ei choesau’n crogi’n rhydd dros y ris garreg ar erchwyn yr ardd.  Roedd awydd gan ei thraed i grwydro, i’w thywys i chwilio am ryddid, am gysur, am unrhyw beth cyfarwydd.  Ond roedd gweddill ei chorff yn gwrthod, a chwynfan rythmig ‘rhen giat flinedig tu cefn iddi yn mynnu ei hatgoffa o’i thristwch a’i hamddifadrwydd.

Fel cerflun o bwysigyn ar bedestal, teimlodd rym ei chaethiwed.  Unwaith yn llawn bywyd, swn ag awch, teimlai bellach fel petai pob hawl i fyw wedi ei gipio oddi wrthi. Ond eto, tra yno ar ddiwedd y llwybr a’i thraed bach yn dawnsio mewn rhyddid smal, teimlodd gyffyrddiad gobaith, achos fan’cw roedd y môr.  Yna tu hwnt i’r môr roedd y gorwel, a phwy a wyr be ddeuai’r gorwel iddi ryw ddydd?  Mae’r gorwel, wedi’r cyfan, wastad wedi bod yn llawn addewid, llawn posibiliadau.

O le yr eisteddai, dim ond gwyro ei phen dros ei hysgwydd oedd raid iddi wneud i fedru ei weld yn sgleinio’n ogoneddus arni yn haul ffres amser brecwast.  Ond waeth iddo heb a sgleinio, achos doedd hi ddim ar unrhyw gyfrif yn mynd i syrthio mewn i’w gariad.  Fysai hynny ddim yn iawn.

Ia, un cip olwg sydyn rhwng cydynau cringoch ei gwallt, i’w hatgoffa o’i ysblander.  Ei hatgoffa o’i harddwch a’r bywyd gwyllt a chwareuai yn ei goed.  Roedd ganddo ryw lonyddwch mawreddog, a chysga hanes difyr yn ddyfn yng ngwreiddiau ei waliau.  Oedd, roedd o’n grand, ond fyddai hwn byth yn gartref iddi.  Mae’n cymryd teulu i wneud cartref, a roedd ei hunig deulu hi ym mhoced ei ffedog.  Parhaodd i syllu i’r cyfeiriad arall, a smalio peidio cael ei phigo gan harddwch y lle tu cefn iddi.

Mewn dim o dro, dechreuodd guriad ifanc ei chalon arafu i rythm tren yr arfordir, oedd newydd ymddangos yn y pellter. Prysurodd yr injan ar ei thaith gan dynnu llinell fwg feddal ar hyd y traeth, a thorri ar lonyddwch yr olygfa. Ymgollodd Luned ei hun a’i thristwch yng ngobaith y gorwel pell, ei llaw yn dawel ym mhoced ei ffedog, yn cosi corneli’r annwyl ffotograff a guddiai yno.

Yr unig adeg mentrai lithro ei llaw i’w phoced i estyn am y llun oedd pan oedd hi’n llwyr ar ei phen ei hun.  Credai yn ei chalon os syllai’n ddyfal ar y ffotograff yn ddigon hir, gan ganolbwyntio pob diferyn olaf o’i dyhead ar ei wyneb o, y bysai’i eto’n clywed ei lais llawn gwên.  “Barod, cariad?  Cofia rwan, dal o’n llonydd a phwysa’r botwm du ar yr ochr, a brysia, mae’r tywod ma’n llosgi’n nhraed i!”

Mwythodd ymylon rhychiog y papur du a gwyn a chyffwrdd blaen ei bys yn ysgafn ar lun ei wyneb.  Fel hyn roedd well ganddi hi ei gofio, ar ei gwrcwd yn nhywod melys yr haf a’r môr yn siffrwd tu cefn iddo.  Ei holl sylw yn eiddo iddi hi, ei gariad cyfarwydd yn gynhesach na haul Gorffennaf, a hithau mor hynod ddiogel yn ei ofal.

Cododd ei llygaid yn anfodlon o’r llun, a’u gosod ar y rhimyn traeth euraidd a orweddai rhwng y gorwel a llinellau mwg y trên ymhell o’i blaen.  Daeth poen hiraeth i’w gwddf a cheisiodd ei lyncu yn ôl, ond roedd o’n sownd fel dolur blin, ag erbyn hyn roedd gwres crio wedi llenwi ei bochau.

Disgynodd dagrau trwm.  Doedd o’m yn iawn bo hi fan hyn ar ei phen ei hun hebddo fo. Rhag eu cywilydd nhw i feddwl bysai hi’n cael ei hudo gan y mans a’i grandrwydd, y bysai modd tawelu ei hiraeth â cheffyl siglo a ffrog ddydd Sul newydd.

Be’ synnwyr oedd na mewn rhoi teulu newydd iddi pan oedd hwnnw oedd ganddi yn ddigon da?  Oedd, roedd o’n deulu bach ond roedd o’n fendigedig o berffaith, dim ond y ddau ohonynt yn ddistaw arfer byw heb Mam.  Y ddau, law yn llaw, yn dod i nabod eu gilydd yn well, yn dysgu sgwrsio, dysgu chwarae, dysgu byw.  Yna daeth yr alwad a’u rhwygo’n ddau, fel miloedd o deuluoedd dedwydd eraill.  Cipwyd hi i ffwrdd i’r diogelwch mysg y coed, a chroesodd yntau’r môr i grombil y frwydr a pherygl angau.

Dyheuai, fel can gwaith o’r blaen, am y gallu i fedru ei gipio fo yn ôl o erchylltra ag ansicrwydd y rhyfel.  Dyheuai am gael diogelwch cysurus ei freichiau o’i chwmpas lle roeddynt i fod.  Dyheuai am fod mewn teulu oedd wir yn perthyn iddi hi, a dyheuai am fod yn chwerthin ar draeth efo fo unwaith eto. ‘Achos wedi’r cyfan’ meddyliodd, ‘da ni’n well hefo’n gilydd, Dad a fi.’

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

Myfyrdod yn Saesneg – Big Spender

I’m no big spender by any stretch of the imagination, in fact I’m a pathetic excuse for a high street consumer.  For example, I haven’t bought myself any proper, ‘grown up’ perfume since the month I married nearly ten years ago.  I’ve been winging it, keeping myself fragrant with my Mam’s unwanted Christmas gifts and by now I’ve an unashamed passion for Lilly of the Valley.  I don’t follow fashion and fashion doesn’t follow me (we have an understanding) and I can’t think of worse ways to spend a weekend than in a big city center with a shopping itinerary and a wad of clean fifties in my bra.

In fact I have as much interest in keeping abreast of fashion as I do in ironing socks. Clothes should adhere to warmth/comfort/practicality requirements, avoiding making me look ridiculous whilst occasionally enhancing what God gave me.  Shoes should always be comfortable, fashioned out of good quality leather (I like a good bit of leather), but most of all not fuck up my knees.

You may think I’m unhinged, but I’ve never made an appearance at a Next sale, especially not queued to get in at 5am and I’ve never, not once sought therapy of the retail kind at the infamous Cheshire Oaks.  Sure I’ve heard of it, it’s a designer outlet where befuddled husbands get lost for endless days, but you’d be right to assume that beyond this, I’ve never made that pilgrimage… I couldn’t even tell you which country it’s in.

Don’t get me wrong, I’m no designer label virgin.  I once lived just off Kensington High Street, spending my Saturdays floating gracefully from H&M to Wallis in between cocktails.  My weekends were a smörgåsbord of restaurants, designer sales, VIP lounges and make-up counters.  I once spent three whole weeks striving to find the perfect shade of brown lipstick, only leaving the make-up department to eat, sleep, oh and that time I ran down the street in pursuit of R&B artist Mark Morrison – he was short, I was determined so made light work of accosting him for an autograph.

Then suddenly there I was one morning, needing to get from A to B in central London via the underground.  I walked to the tube station, stood at the barriers with my ticket and thought ‘stuff this!’.  Something flicked my attitude switch.  I was done with London and done with the decadence, darling.  I’d had my fill of cocktails at twelve, false eyelashes and ‘one off’ see-through designer dresses and I was so bored with standing seductively on the glass stairs in Browns on Queen’s Street, trying so hard to be one of them.  I had 4 years of intense, big city living under my belt and quite frankly I no longer knew myself.

The decision to become a bit of a hippie was neither a deliberate or an immediate one, and though I knew I needed a change, I certainly hadn’t intended on going from one extreme to the other.  But within a month I found myself on my stomach in a field in Gloucestershire, in full camouflage gear, with a small rifle under my arm, trying to shoot a rabbit for my supper – this was real nature and I was at one with it.  From there on I swiftly became accustomed to making salads from hedgerow leaves, raiding supermarket skips, eating proper bacon and having communal showers.  I’d never been more naked.

During my year of being organic, make-up-less and as God intended, I learnt how to be just me, no frills.  It wasn’t an easy year, but it was an essential one. I was suddenly frighteningly skint, mostly confused, often very lonely and had nowhere to go.  That’s when I started seeing life and all its fodder in a bright new light.

My wilderness days were 15 years ago and since then I’ve continued to be incredibly stupid on more occasions than I care to remember, but I’ve persevered every day to learn how to live a better life.  I’ve acquired an university degree, learnt not to be frightened of the sea and found a husband online.  I’ve become used to being honest about my pitiful pastry-making skills, have been pregnant six times and have two surprisingly beautiful and rather hilarious children.  I’ve also learnt that ‘stuff’ doesn’t hold any actual emotive value – your trappings/junk/gear/paraphernalia/effects/possessions apparently don’t have the magical ability to make you proper happy, like.

Don’t get me wrong, I’m not holier than anyone and quite surprisingly I don’t possess the serene ability to float on thin air whilst gazing condescendingly at all below me.  I drink wine, watch TV and wear mascara as much as any other man, but it would seem that the only Jones I need to keep up with these days is myself.  Precious things can no longer hold me spellbound. I just don’t get it, that lust for labels, that desire for designer – and I can’t even begin to identify with the level of rapaciousness which drives someone to queue outside a major retailer at 5am.

Sure, I have a Betty Jackson cardigan in my wardrobe, a pretty Monsoon top and a dress with proper 100% silk in it, not pretend silk, but the actual real thing!  They’re all second hand and surprisingly clean, devoid of rips or tears or previous owner’s bodily fluids and the best thing is, I didn’t have to part with uncomfortable amounts of mazuma to buy them.

I wouldn’t go as far as saying that I’m now widely known as ‘Second Hand Sally’, but there currently isn’t a single item in my wardrobe which I’ve bought from new.  From late night eBay specials to hundreds of treasure filled charity/vintage/thrift shops, I’ve enjoyed hours of rummaging and foraging.  I’m no less happy because of it and don’t suffer the wrath of public ridicule, I don’t look unkempt, have fleas or look like a college student from the 70s. It would also seem that 10 years on, I’m still happily married despite having only paid £6 for my wedding shoes, shoes which someone else had already tied the knot in.  Hell, they may even have consummated their marriage in them, but who cares?!

There’s something gloriously satisfying about finding the ultimate bargain and buying second hand.  It’s wonderfully resourceful and it massages the conscience.  It’s less wasteful, less indulgent, ecologically friendly and doesn’t feed ugly sweat shops – and I love the mystery of buying something with a little bit of history.

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | 2 Sylw

Mae na gachu ar y walia’…

…o ma pawb yn mynd o’u coeau yn slo, slo bach…

Dw i am sgwennu’r pwt yma tra’i fod dal yn ffres yn fy ngho… hmmm, wedi meddwl, fallai nad yw’r gair ‘ffres’ yn addas iawn yn y cyd-destun hwn, ta waeth…

Ma Beuno yn ddi glwt. Un diwrnod braf o wanwyn, heb frwydr na llawer o lanast, daeth y trôns i rym, ag ewadd roedd o’n edrych yn ddel ynddyn nhw, washi.

A deud y gwir, dw i’m wirioneddol yn credu mewn ‘hyfforddiant tŷ bach’ i blant.  Wedi’r cyfan, mae dod i ddefnyddio’r tŷ bach yn llwyddiannus, yn gyfnod datblygiadol yn nhyfiant plentyn, fel eistedd fyny, cerdded a siarad… tydy cropian ddim, gyda llaw – rhywbeth dewisol ydy cropian.

Beth bynnag, be dwi’n drio ddeud, ydy fy mod wedi gadael fy nau epil yn eu clytiau, mwy neu lai hyd syrffed.  Gafon nhw wared a’r clwt pan oedden nhw isho go iawn – nid fi oedd yn dewis pan oedd yr amser yn iawn, ond nhw, a digwydd bod mi ddigwyddodd cyn oedran ysgol.

Doedd dim siom, dim ansicrwydd ag ofn, dim ffraeo, dim mopio, dim llynnoedd, dim bleach, a roedd pawb yn gytûn.

A felly at heddiw.

Tydy ‘mab annwyl dy fam’ ddim wedi cyrraedd y sdêj o fod yn ddi glwt yn y nôs eto.  Felly mae’n mynd i’w wely mewn ‘pull-up’ – clwt sydd ddim yn glwt, sydd i fod i edrych mwy fel trôns, ond tydy o’n edrych dim fel trôns, mae’n edrych fel clwt, clwt ffansi, lliwgar.  A diolch i Dduw mai dim ond un y dydd/nôs da ni’n gorfod ddefnyddio, achos mae’r “clwt sydd ddim yn glwt, sydd i fod i edrych mwy fel trôns, ond tydy o’n edrych dim fel trôns, mae’n edrych fel clwt,” yn gythreulig o ddrud.

Tydy mab annwyl dy fam, ddim chwaith wedi cyrraedd y sdêj o fod yn ‘rheolaidd’ eto.  Does wybod pryd daw yr alwad.  Mi fu am gyfnod yn hogyn boreuol, ond pasio nath hynny.  Ond mae na un peth y medra’i ddibynnu arno, sef bo’r alwad byth yn dod cyn iddo ddeffro… wel dyna o’n i’n feddwl, tan bore ma.

Mi glywais swn y traed bach cysglyd, cyn i mi glywed yr oglau.  I ddeud y gwir, roedd o di sleifio’n gynnes a chlyd dan y dwfe ag i gesail ei fam cyn i mi sylwi bo na unrhyw beth o’i le – nes i’m disgwyl cael fy neffro yn y fath fodd, mae’n rhaid mi ddweud.

Bendith ar ben Beuno bach, mae o’n hogyn eitha annibynnol, mae o’n licio dysgu sut i neud petha’n iawn, ag yna wedi ‘dysgu’ yn cael pleser mawr o gael gneud y petha hynny drosto’i hun.  Er enghraifft, os ydy Beuno yn gneud ‘llanast’, yna mae o’n licio llnau o ei hun… os da chi’n gwbod be dwi’n feddwl.

Ymddengys bo’r alwad wedi dod i  Beuno yn anghymdeithasol o fore heddiw, cyn iddo hyd yn oed defro’n iawn.  ‘Wel diolch i Dduw am pull-up!’ dw i’n clywed chi’n deud… ia, sa chi’n meddwl hynny bysach.

Roedd annibyniaeth a chydwybod cariad bach Mam, wedi ei gyflyru, tra roedd pawb yn dal i huno’n dawel, i fynd i’r stafell molchi ar ei ben ei hun a heb yr un smic, a mynd ati i drio llnau… washi.  Ond dim jest llnau ei hun… llnau y pull-up hefyd… yn y sinc…

Erbyn i mi arogli bo problem, a dod o hyd i safle’r drosedd, ymddengys ei fod di bod wrthi’n ddiwyd yn ‘llnau’ ers peth amser… washi.

Roedd y pull-up yn y sinc, y tap dwr oer yn rhedeg yn wyllt a gweddill y stafell yn edrych fel ffrwydrad mewn ffatri Cadburys, ag yng nghanol popeth roedd Beuno, yr un mor ‘siocledlyd’. 

Ar fy ngweld yn sefyll yn y drws a golwg arswyd ar fy ngwyneb, mi drodd yr angel bach ataf, a’i lygaid yn fawr a dweud “Sbia Mam, dw i di helpu llnau!” a dyma finna’n ateb, “Do Beuno, ti di helpu llnau” – rwan lle mae’r bleach.

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | 1 Sylw

Ni fydd ffidil yn fy nho

Ydw, dw i’n benderfynol fel mul, dw i mor benderfynol a deud y gwir, fel bo fi bellach yn araf ddiflasu pawb o’nghwmpas… da chi di clywed am gythral canu do?  Wel cythral campio sgen i.

Do dw i di ymladd fy nibyniaeth i ‘born carafannau’.  Es i’n ‘cold turkey’ wedi ffeindio mai nid tynny coes oedd y gŵr pan roddodd y geiriau ‘carafan’ a ‘thros fy nghorff marwol’ yn yr un frawddeg.  Nes i’m ennill gyda nghais bach diniwed am babell mewn trelar chwaith, er i mi sôn bo rhai yn dod gyda thŷ bach, a byswn i’n darparu papur pen-ôl fel sidan, paned, a chopi diweddaraf ‘Private Eye’, am ei drafferth.

A dyma sut drodd fy nibyniaeth ar ‘born carafannau’ i fewn i gythral campio, bron dros nos… anwadal, fi?

Ond fel soniais o’r blaen, roedd hyd yn oed meddwl am dreulio noson yn yr ‘hen’ babell teulu oedd genym, yn gyrru ias oer lawr fy nghefn.  Hyd yn oed ar ôl hanner potel o win, bysa’r bwlch drafftiog na rhwng wal y babell a’r ‘groundsheet’ yn siwr o’nghadw yn effro – Duw a ŵyr, bysa unrhywbeth o lewpart i scorpion yn gallu sleifio fewn yng nghanol nos.

Felly, fel Dorothy ar ei phenagliniau o flaen y nerthol Oz, dyma droi mewn gobaith, unwaith eto, at wybodaeth a chynhaeaf toreithiog eBay.

Ond drwy haelioni ffrind daeth fy achubiaeth yn y diwedd, a’r cynnig o gael benthyg y babell mwyaf secsi dw i erioed wedi ei weld – tair staffell wely, lle byw ddigon mawr i far coctêl, cyntedd, yr angenrheidiol ‘sewn in groundsheet’ ag wrth gwrs ‘hydrostatic head’ gwerth brolio amdano – o’n i fatha ci hefo dau gynffon.

A rwan at Ddoe… Yn y llecyn mwyaf hyfryd, ar ucheldir fferm fechan y tu allan i bentref Llanfachreth ger Dolgellau, ar gyfer parti penblwydd priodas ffrindiau arbennig, efo dros 40 o alpacod mewn cae cyfagos, cawsom y cyfle, am y tro cyntaf erioed i fod yn ‘deulu gwersylla’ go iawn – roedd y Jonsus fel pros.

Tra roedd pen bandit y teulu (ag ambell i ddyn arall) wrthi’n wrol yn morthwylio pegiau fewn i’r ddaear, er mwyn codi’r pafiliwn o babell, o’n i’n chwarae ty bach, yn araf dadbacio’r offer a gosod y clustogau yn daclus ar y gwelyau aer fel taswn i di bod wrthi am flynyddoedd.  Mawr fu ymdrech pawb, a roedd yr olygfa orffenedig yn werth ei gweld – wir yr, sa chi di gallu rhoi ni ar glawr cylchgrawn gwersylla.

A dyma ni at y parti, ag o’n i ar ben fy nigon.  Gyda golygfeydd anhygoel o’n cwmpas cawsom fwynhau cwmni da, bwyd figan hollol hyfryd a digonedd o win.  Roedd y plant wrth eu boddau yn chwarae a rhedeg, gan chwerthin o waelod eu boliau, a chawsom daith fechan i ben y bryn, gyda Chader Idris a’r machlud yn y pellter, i ddweud helo wrth yr alpacod – noswaith berffaith o haf … wel, tan amser gwely.

Cyn imi fynd ati i gorlanu’r trwps i’r babell, es yno’n ddistaw bach i edrych dros fy nheyrnas a’i hedmygu – 2 wely aer bach, 2 sach cysgu clyd, 1 clustog Tomos y Tren ag 1 clustog tywysogeslyd, 2 flanced gyfarwydd, 2 set o fyjamas cynnes a’r sbicar ‘blue tooth’ gyda digon o bŵer i chwarae eu hoff hwiangerddi amser gwely – o’n i’n barod amdanynt.

Oce, doedd na’m gwadu bo’r plant di weindio, di gor flino a gor gyffroi fel ma nhw, ond nes i’m rhagweld cweit pam mor flêr bysa amser gwely yn mynd. 

Er gwaetha’r paratoi manwl ag er gwaetha’r blinder a’r edrych mlaen i gael cysgu dan y sêr, bu protest, y math o brotest sy angen ‘crowd control’ – ceffylau, tariannau mawr plastig a gynnau taser… ond doedd gen i ‘run o’r rheiny, jest Aran a fi, ochr yn ochr yn y tywyllwch, yn erbyn y bobl bach.

Erbyn i’r sgrechian (y plant, nid Aran) gyrraedd y fath lefel lle roedd yn dechrau codi cywilydd ar na’i, roedd y ddau ohonom yn gwybod bo rhaid am ryw fath o weithred drastig heb wylltio… a dyma’r amod yn cael ei osod gerbron yn bwyllog – “os nag ydach chi’n dechrau setlo lawr a phwyllo erbyn i ni gyfri i bump yna da ni’n dechrau ystyried mynd adra heno”.

O’n i di cyfri i bump dair gwaith cyn i mi sylwi bo Aran yn sefyll wrth fy ochr gyda ‘tent peg extractor’ yn ei law. Chwarter awr wedyn, am hanner awr wedi 10, yn nuwch y nos, y gwybed yn ein bwyta yn fyw, a heb golli tymer, roedd dau o blant bach blin iawn yn eu pyjamas yng nghefn y car, o’n i ar fy hyd ar wely aer, yn rowlio nôl a mlaen fel morlo yn trio gwasgu’r gwynt ohono ag Aran yn cael gwared a’i rwystredigaeth drwy rwygo pegiau allan o’r ddaear – daeth na ‘run babell lawr mor sydyn.

Hanner nos oedd hi erbyn i ni gyd fod yn ôl yn ein gwelyau ein hunain ym Mynytho. Roedd y plant yn cysgu’n sownd ag Aran a finnau yn hollol lluddedig.

Wrth i mi ddechrau huno i gysgu, o’n i wirioneddol yn gobeithio, drwy ddilyn drwodd gyda’r bygythiad yn bwyllog a chydag eglurder, ein bod wedi gneud lles ag wedi buddsoddi yn y dyfodol.

Rargol mae bod yn rhiant yn anodd weithiau tydy? Da ni’n trio’ n gorau o ddydd i ddydd i neud y petha iawn, i fagu gyda gofal, cariad a chysondeb, i helpu’n plant i ddeall eu hunain a’r byd o’u cwmpas, i osod ffiniau heb wasgu gormod ar eu rhyddid a’u creadigaeth, i gadw nhw’n ddiogel, i neud nhw’n bobl da.

Ond yn aml iawn dw i’n ffeindio fy hun yn amau pob penderfyniad heb wirioneddol syniad os dw i’n gneud y peth iawn a’u peidio.

Ar ddiwedd y dydd, fedran ni neud dim na fedran, ond gweithredu ein penderfyniadau ag ymddiried ynddynt, ymddiried yn ein hunain ag ymddiried yn ein plant, y plant da ni’n nabod yn well na neb arall yn y byd, ag yna caru ein plant gyda’n holl galon.

Gawn weld sut eith y trip gwersylla nesa – croesi bysedd.

 

 

 

 

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | 1 Sylw

Gangnam Style

Ydach fel fi yn crefu cael byw mewn cymuned bach ddelfyrdol?  Ryw fersiwn Cymreig o bentref ‘Greendale’ o gyfres ‘Postman Pat’?  Pentre bach del gyda phôst a siop, becws ag eglwys, ysgol a pharc, lle mae pawb yn nabod eu gilydd, yn tynny mlaen yn dda ag yn barod i helpu?

Da ni isho medru caru ein cymuned does, ag isho ein cymuned garu ni yn ôl.  Da ni isho medru cerdded allan o’r drws yn teimlo’n ddiogel a chartrefol.  Da ni isho medru brolio am ein cymuned ni wrth bobl sy’n byw mewn cymunedau eraill.

Gen i ddelwedd o gymuned ddelfrydol yn fy mhen i, un sy’n seliedig ar lle ges i fy magu.  Er dw i’n siwr sa fy rhieni yn peintio darlun llawer llai perffaith na fy un i, dw i’n dal i weld Llanaelhaearn yn y 70au a’r 80au cynnar drwy niwl rhamantus tu hwnt.

Dw i’n cael cysur mawr o gofio mynd am daith ysgol i fecws y pentref yn Glanrhyd – ‘dê owt’ go iawn oedd honno.  Dw i’n cofio ffeindio pwrs pinc llawn ceiniogau ar stryd a chael teimlo’n bwysig wrth fynd a fo’n syth i swyddfa heddlu’r petref.  Dw i wrth fy modd yn ymgolli fy hun yn fy atgofion cynes o’r nosweithiau tân gwyllt yn Llechdara, o slejo lawr Y Foel, o’r teithiau canu carolau oedd yn diweddu gyda diod a chacen yn nhy posh Mr a Mrs Nicholas, a’r partion nos calan lle oedd pawb yn dod a thamaid o fwyd efo nhw.  Na i byth anghofio Glenys pôst a’i lipstic pinc llachar, a’r ogla stiwio fala wrth basio ty Mrs Gapper… sw ni’n medru mynd ymlaen drw nos…

Ydy’r oes di newid go iawn dwch?  Oedd na ambell i glais llwyd pydredig yng nghymuned perffaith fy mhlentyndod i, fel sydd o’n cwmpas ni rwan?  Ydy cyffuriau ag alcohol, teuluoedd torriedig a mewnfudwyr meudwyaidd yn broblemau dwysach rwan nag oeddwn nhw yn yr oes pan oedd Blodyn Tatws yn codi crîps arna i ar HTV?  Ydyo’n wir i ddweud bo chi ddim ond yn cael allan o gymuned be da chi’n ei roi fewn iddo?

Dw i di byw yn Mynytho rŵan am dros bedair mlynedd, ag er gwaetha fy ymdrechion i daflu fy hun i fewn i’r gymuned, dw i dal ddim yn nabod hanner y bobl syn byw yma yn ‘Upper Abersoch’, a dwi’n gwbod bo na rai na wnai byth eu nabod… ond ma hynny yn oce hefo fi, wedi’r cyfan, maer oes wedi newid do?

Mae ysgol y pentref yn debyg iawn i ysgol Llanaelhaearn ‘stalwm, llon llaw o blant, a’r cyfan wedi eu rhannu i ddau ddosbarth yn unig – mae hi’n ysgol fach braf iawn, ag yno i mi mae calon y gymuned hon.  Yno dw i di dod i nabod llon llaw o rieni hollol fendigedig a di gwneud ffrindiau am oes.  Mae hi’n ysgol fach weithgar llawn bwrlwm, ysgol sy’n ymladd yn ddyddiol am ei hawl i fyw, ag ysgol fach sy’n profi pob dydd pam mor werthfawr yw hi i’w chymuned, er nad yw’r gymuned gyfan, pob tro, a chymaint o ots am hynny.

Dydd Mawrth cawsom steddfod ysgol, cyfle i rieni, neiniau, teidiau, modrybion, ewythyrod ag ati ddod ynghyd yn neuadd Goffa Mynytho, i gefnogi a chystadlu mewn pob math o gystadleuthau o wneud tŵr allan o ‘grîm cracyrs’ i adrodd hwyangerddi am yn ôl.  Pob un ohonom wedi ein rhannu i dimau Enlli, Gwylan a Tudwal, yn goch, yn wyn ag yn wyrdd.  Pob tîm gyda’u fflagiau a’u masgots, pob tim wedi cyffroi.

Am ddwy awr y p’nawn hwnnw, o’n i’n byw mewn cymuned ‘berffaith’, cymuned fy mhlentyndod.  O fewn y bedair wal hynafol honno roedd na gymaint o gyfeillgarwch, o deimlad o berthyn ag agosatrwydd, a’r lle yn ysgwyd gyda swn chwerthin a chymeradwyo.  Roedd pawb wedi llwyr ymgolli yn yr hwyl a wedi taflu eu hunain mewn i’r cystadlu gydag awch a brwdfrydedd.

A dyma’r uchafbwynt yn cyrraedd gyda’r gystaleuaeth dawnsio, ag Anti Mena, gofalwraig yr ysgol ers blynyddoedd maith, ag un o wynebau mwyaf cyfarwydd y gymuned, yn codi ar ei thraed, a llon llaw o ddisgyblion ifanc yn ei dilyn fel cywion, yn dringo i’r llwyfan ac yn syfrdanu pawb drwy berfformio’r ddawns ‘Gangnam Style’ mwya doniol dw i erioed wedi ei weld.  Roedd y dagrau wir yr yn powlio, tra roedd Anti Menna yn ei sbectol haul, wirioneddol yn taflu ei hun i fewn i’r weithred, er mwyn y plant, er mwyn yr ysgol ag er mwyn y gymuned – cymuned plentyndod fy mhlant i – diolch iddi am helpu i greu atgofion melys ar eu cyfer.

 

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw